Acts 1:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd ymchwelesont y Gaerusalem o y wrth y mynydd y elwir mynydd Olivar, yr hwn ’sydd yn agos i Gaerusalem, ys ef yspait ymddaith diernot Sabbath.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dychwelasant i Ierwshalem o’r mynydd a elwir mynydd yr Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Ierwshalem, ag iddo daith Sabbath.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna dychwelasant i Gaersalem o’r mynydd a elwir Mynydd Olewydd, sydd yn agos i Gaersalem, daith Saboth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y troesant i Jerwsalem, o'r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Digwyddodd hyn i gyd ar Fynydd yr Olewydd oedd rhyw dri chwarter milltir i ffwrdd o'r ddinas. Dyma nhw'n cerdded yn ôl i Jerwsalem
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dychwelsant i Jerwsalem o'r mynydd a elwir Olewydd, sydd yn agos i Jerwsalem, daith Saboth oddi yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dychwelasant i Jerusalem o Fynydd a elwir yr Olew‐wydd, yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, taith diwrnod Sabbath.