Acts 1:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy y dyvot vvy y mewn, yð aethant i vyny dd i ’orch ystavell, lle ydd arosent ac Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas, Philip, ac Thomas, Bartholomeus, ac Mattheus, Iaco vap Alpheus, ac Simon Zelotes, ac Iudas bravvd Iaco:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ddaethent i mewn i’r oruch-ystafell yr aethant i fynu, lle yr arhosai Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholemëus a Matthew, Iago mab Alphëus, a Shimon Zelotes, ac Iwdas brawd Iago.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt ddyfod yno, aethant i fyny i’r llofft lle’r oeddynt yn aros, Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Phylip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot ac Iwdas fab Iago.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a mynd yn syth i'r ystafell honno i fyny'r grisiau yn y tŷ lle roedden nhw'n aros. Roedd Pedr yno, Ioan, Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, Simon y Selot a Jwdas fab Iago.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi cyrraedd, aethant i fyny i'r oruwchystafell, lle'r oeddent yn aros: Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot a Jwdas fab Iago.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaethant i mewn, hwy a aethant i fyny i'r Oruwch‐ystafell, lle yr oeddent yn aros; Petr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Matthew, Iago mab Alpheus, a Simon y Zelotiad, a Judas mab Iago.