Acts 1:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr ei hynn oll oedd yn ym aros yn vnvryt yn‐gweddi a’ goglyt y gyd a’r gwragedd, a’ Mair vam yr Iesu, ac y gyd ei vroder. Yr Epistol ar dydd. S. Mathias
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y rhai hyn oll oeddynt yn parhau yn gyttun mewn gweddi ynghyda’ r gwragedd a Mair mam yr Iesu, ac ynghyda’i frodyr Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y rhai hyn oll oedd yn dyfal barhau yn unfryd mewn gweddi gyda rhai gwragedd a Mair, mam yr Iesu, a chyda’i frodyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda'r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n cyfarfod yno'n gyson i weddïo gyda'i gilydd, gyda Mair mam Iesu, a'i frodyr, a nifer o wragedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi, ynghyd rhai gwragedd a Mair, mam Iesu, a chyda'i frodyr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y rhai hyn oll oedd yn dyfal‐barhau yn unfryd mewn gweddi, gyda rhai gwragedd, a Mair, mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef.