Acts 1:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dyddiae hyny y cyuodes Petr i vyny dd yn‐cenol y discipulon ac y dyvot, (a’ niuer yr enwae oedd yn yr vn lle, yt oedd yn‐cylch cant a’r vgain)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn y dyddiau hyny, wedi cyfodi o Petr ynghanol y brodyr, dywedodd (ac yr oedd lliaws o enwau ynghyd, o ddeutu ugain a chant),
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yn y dyddiau hynny cyfododd Pedr ymysg y brodyr a dywedyd (yr oedd torf o bobl, tua chant ac ugain i gyd),
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y dyddiau hynny Pedr a gyfododd i fyny yng nghanol y disgyblion, ac a ddywedodd, (a nifer yr enwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant,)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un tro roedd tua cant ac ugain yno yn y cyfarfod, a safodd Pedr yn y canol,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un o'r dyddiau hynny cododd Pedr ymysg y credinwyr yr oedd tyrfa o bobl yn yr un lle, rhyw gant ac ugain ohonynt ac meddai,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn y dyddiau hyny Petr a gyfododd i fyny yn nghanol y brodyr, ac a ddywedodd, (ac yr oedd lliaws o bersonau yn yr un lle, ynghylch cant ac ugain),