Acts 1:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A wyr vroder, yð oeð yn ddir cyflawny yr Scrythur hynn, yr vn a rac ddyvot yr Yspryt glan trwy enae Dauid am Iudas, yr hwn a vu dywysawc ir ei a ddaliesont yr Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwŷr frodyr, rhaid oedd i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Iwdas, yr hwn a aeth yn dywysydd i’r rhai a ddaliasant yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Frodyr, rhaid oedd cyflawni’r ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân drwy enau Dafydd am Iwdas, a fu’n arweinydd i’r rhai a ddaliodd Iesu;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ha wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni'r ysgrythur yma a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Iesu:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dweud: “Frodyr a chwiorydd, roedd rhaid i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ddigwydd. Yn bell yn ôl roedd y Brenin Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, wedi sôn am Jwdas yr un wnaeth arwain y bobl at Iesu i'w arestio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gyfeillion, rhaid oedd cyflawni'r Ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Gln trwy enau Dafydd am Jwdas, yr un a ddangosodd y ffordd i'r rhai a ddaliodd Iesu;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O Frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr ysgrythyr a rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Judas, yr hwn a aeth yn arweinydd i'r rhai a ddaliasant yr Iesu.