Acts 1:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae yn wybodedic y gan oll preswylwyr Caerusalem, yd pan elwir y maes hwnw yn ei tavodiaith wy, Aceldama, ys ef yw hyny, Maes y gwaet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thywalltwyd allan ei holl ymysgaroedd: a hyspys fu hyn i bawb yn preswylio yn Ierwshalem, fel y galwyd y maes hwnw, yn eu hiaith, Aceldama, hyny yw, Maes gwaed).
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth yn hysbys i holl drigolion Caersalem, nes galw’r cae hwnnw yn eu hiaith hwy Aceldama, sef Cae’r Gwaed.)
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu hysbys hyn i holl breswylwyr Jerwsalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, Maes y gwaed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth pawb yn Jerwsalem i wybod am beth ddigwyddodd, a dechreuodd pobl alw y lle yn eu hiaith nhw yn Aceldama, sef ‛Maes y Gwaed‛.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth hyn yn hysbys i holl drigolion Jerwsalem, ac felly galwyd y maes hwnnw yn eu hiaith hwy eu hunain yn Aceldama, hynny yw, Maes y Gwaed.)
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac aeth hyn yn hyspys i bawb oedd yn preswylio yn Jerusalem; yn gymaint ag y gelwid y maes hwnw yn eu hiaith eu hunain, Acheldamach, hyny yw, Maes y Gwaed.)