Acts 1:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys e yscrivennir yn llyfer y Psalmae, Bit y breswylfa ef yn ddiffaith ac na thriget nep ynthaw: ac, bit i arall gymeryt ei, escopaeth ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys ysgrifenwyd yn Llyfr y Psalmau, “Bydded ei gorlan yn anghyfannedd, Ac na fydded a drigo ynddi,” ac “A’i oruchwyliaeth cymmered arall.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Canys ysgrifennwyd yn Llyfr y Salmau Eled ei dyddyn yn anghyfannedd ac na bydded a drigo ynddo, ac Cymered arall ei swydd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ysgrifennwyd yn llyfr y Salmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffeithwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymered arall ei esgobaeth ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae llyfr y Salmau yn cyfeirio ato,” meddai Pedr, “ ‘Bydded ei le yn anial, heb neb yn byw yno.’ “Ac mae'n dweud hefyd, ‘Gad i rywun arall gymryd ei waith.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Oherwydd y mae'n ysgrifenedig yn Llyfr y Salmau: 'Aed ei gartrefle yn anghyfannedd, heb neb yn byw ynddo', a hefyd: 'Cymered arall ei oruchwyliaeth.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Salmau, Aed ei drigfan yn anghyfanedd, Ac na fydded a breswylio ynddi; Ac hefyd, Cymered arall ei oruchwyliaeth