Acts 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
i ba’r ei hefyt yr ymddangosawdd ehun yn vyw, gwedy iddaw ddyoddef, trwy lawer o ar gyhoeddion, a’ bot yn weledic yddynt tros yspait dauugain diernot, can cympwyll vvrthyn am y pethae ’r y perthynant ar deyrnas Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r rhai hefyd y dangosodd Ei hun yn fyw, wedi Iddo ddioddef, trwy lawer o brofion, yn cael am ddeugain niwrnod Ei weled ganddynt, ac yn dywedyd y pethau am deyrnas Dduw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
iddynt hwy y dangosodd ei hun hefyd yn fyw wedi ei ddioddefaint drwy brofion lawer, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain niwrnod a llefaru’r pethau a oedd am deyrnas. Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr; gan fod yn weledig iddynt dros ddeugain niwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dangosodd ei hun hefyd iddynt yn fyw, wedi ei ddioddefaint, drwy lawer o arwyddion sicr, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain diwrnod a llefaru am deyrnas Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i'r rhai hefyd y dangosodd ei hun yn fyw ar ol ei Ddyoddefaint trwy lawer o arwyddion sicr, gan ymddangos iddynt ar hyd deugain niwrnod, a dywedyd y pethau am Deyrnas Dduw,