Acts 1:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy iddaw ei cynnull vvy yn‐cyd, ef ’orchymynoð yddwynt, nad elent ymaith o Gaerusalem anid ysgwyl am addewit y Tad, yr hwn, eb ef, a glywsoch y cenyf’.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi ymgynnull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt beidio ag ymadael o Ierwshalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn (ebr Efe) a glywsoch Genyf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth gyd-ymgynnull, gorchmynnodd iddynt nad ymadawent o Gaersalem, ond disgwyl addewid y Tad, “a glywsoch,” eb ef, “gennyf fi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ymgynnull gyda hwynt, efe a orchmynnodd iddynt nad ymadawent o Jerwsalem, eithr disgwyl am addewid y Tad, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un o'r troeon hynny pan oedd yn cael pryd o fwyd gyda nhw, dwedodd fel hyn: “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi ei addo. Dych chi'n cofio fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thra oedd gyda hwy, gorchmynnodd iddynt beidio ag ymadael o Jerwsalem, ond disgwyl am yr hyn a addawodd y Tad. "Fe glywsoch am hyn gennyf fi," meddai.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chan ymgynull gyda hwynt, gorchymynodd iddynt nad ymadawent o Jerusalem, eithr disgwyl o honynt am Addewid y Tad, yr hon, eb efe, a glywsoch genyf fi: