Acts 1:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwedy gan hynny y dyvot wy nteu yn‐cyd, y govynesont iddo, gan ðywedyt, Arglwydd, ai ’r amser hyn yr advery y deyrnas ir Israel?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant Iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai y pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau felly wedi dyfod ynghyd, gofynnent iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, ai yn yr amser hwn yr adferi’r deyrnas i Israel?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai'r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y disgyblion yn cyfarfod gyda Iesu roedden nhw'n gofyn iddo o hyd, “Arglwydd, ai dyma pryd rwyt ti'n mynd i ryddhau Israel a'i gwneud yn wlad annibynnol unwaith eto?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, wedi iddynt ddod ynghyd, fe ofynasant iddo, "Arglwydd, ai dyma'r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, a wyt ti yn yr amser hwn yn adferu y Deyrnas i Israel?