Acts 1:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthynt, Nid yw ychwy wybot yr amserae, n ai yr prydiae ’r ei ’osodes y Tat yn ei veddiant ehun:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Nid i chwi y mae gwybod yr amseroedd a’r prydiau, y rhai y mae’r Tad wedi eu gosod yn Ei feddiant Ei hun.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd wrthynt, “Nid eiddoch chwi ydyw gwybod amseroedd neu brydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn ei awdurdod ei hun,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na'r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ateb Iesu oedd: “Duw sy'n penderfynu pethau felly. Does dim rhaid i chi wybod beth ydy'r amserlen mae Duw wedi ei threfnu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Nid chwi sydd i wybod amseroedd neu brydiau y mae'r Tad wedi eu gosod o fewn ei awdurdod ef ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd neu'r prydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn cylch ei awdurdod ei hun.