Acts 1:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ’wedy yddaw amadrodd y pethae hyn, ac wyntwy yn tremyaw, y d erchafwyt ef y vyny dd: ac wybren y cymerawdd ef i vyny dd o’i golwc vvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dywedyd y pethau hyn, a hwy yn edrych, cymmerwyd Ef i fynu, a chwmmwl a’i derbyniodd Ef allan o’u golwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a hwythau’n edrych, fe’i dygwyd i fyny, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna ar ôl iddo ddweud hynny cafodd ei godi i fyny i'r awyr o flaen eu llygaid. Dyma gwmwl yn dod o'i gwmpas a diflannodd o'u golwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo ddweud hyn, a hwythau'n edrych, fe'i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o'u golwg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a gymerwyd i fyny, a chwmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg.