Acts 10:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a welas y nef yn agoret, a’ rryw lestr yn descen ataw, mal llen‐lliain vawr, wedy rhwymo erwyð y pedair congyl, ac a ellyngwyt yd y waered yd y ddaiar,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a thra y parottoent hwy, daeth arno lewyg; a gwelai y nef yn agoryd, a disgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, yn cael wrth bedair congl ei ollwng i lawr ar y ddaear,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac y mae’n gweled y nef yn agored a rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr, a ollyngid wrth bedair congl tua’r ddaear;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a'i gollwng i waered hyd y ddaear:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd yr awyr yn agor a rhywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr i'r ddaear wrth ei phedair cornel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua'r ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac y mae yn gweled y Nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn megys llen‐llian fawr, wedi ei gollwng i lawr wrth ei phedair congl ar y ddaear: