Acts 10:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan yt oedd Petr yn petrusaw ynthaw ehū pa beth yt oedd y weledigaeth hon y welsai, wele, y gwyr y dd anvonesit y gan Cornelius, a ymovynesent am d u y Simon, ac a safent wrth y porth,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ynddo ei hun yr ammheuai Petr pa beth ysgatfydd oedd y weledigaeth a welsai, wele, y gwŷr a ddanfonasid gan Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Shimon,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fel yr oedd Pedr mewn penbleth ynddo’i hun beth a allai’r weledigaeth a welsai fod, dyma’r gwŷr a anfonwyd gan Gornelius, wedi iddynt ofyn am dŷ Simon, yn dyfod a sefyll yn y cyntedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Pedr yn methu'n lân â deall beth oedd ystyr y weledigaeth. Yna tra roedd yn meddwl am y peth cyrhaeddodd y dynion roedd Cornelius wedi eu hanfon. Dyma nhw'n sefyll y tu allan i'r giât,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth allai ystyr y weledigaeth fod, dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi iddynt holi am du375? Simon, yn dod a sefyll wrth y drws.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd Petr yn petruso yn ddirfawr ynddo ei hun beth a allasai y weledigaeth a welodd fod, wele, y gwyr oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi ymofyn am dy Simon, a safasant wrth y porth.