Acts 10:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oedd Petr yn meðwl am y weledigaeth, y dyvot yr Yspryt wrthaw, Wele, tri‐ g wyr yn dy geisiaw:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Petr yn meddwl am y weledigaeth, wrtho y dywedodd yr Yspryd, Wele, tri wŷr a’th geisiant:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thra oedd Pedr yn synfyfyrio ar y weledigaeth dywedodd yr Ysbryd, “Dyma ddau ŵr yn dy geisio;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser, tra roedd Pedr yn pendroni am y weledigaeth gafodd, dwedodd yr Ysbryd Glân wrtho, “Simon, mae tri dyn yma'n edrych amdanat ti,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd Pedr yn synfyfyrio ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd, "Y mae yma dri dyn yn chwilio amdanat.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr yn dwys ystyried ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Yspryd wrtho, Wele dri o wyr yn dy geisio di.