Acts 10:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Petr a ddescennawdd at y gwyr, ydd anvonesit ataw ywrth Cornelius, ac a ddyvot, Wele, mi vi yw ’r hvvn ydd ych yn ei geisiaw: pa beth yw ’r achaws o ei bleit y daethoch yma?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi disgyn o Petr at y gwŷr, dywedodd, Wele, myfi yw’r hwn a geisiwch: pa beth yw’r achos am yr hwn yr ydych yma?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i Bedr ddisgyn at y gwŷr fe ddywedodd, “Dyma fi, yr hwn a geisiwch; beth yw’r achos am eich dyfod?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw'r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o'i herwydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Pedr yn mynd i lawr y grisiau a dweud wrth y dynion, “Fi dych chi'n edrych amdano. Pam dych chi yma?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Pedr i lawr at y dynion, ac meddai, "Dyma fi, y dyn yr ydych yn chwilio amdano. Pam y daethoch yma?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr wedi disgyn at y gwyr, a ddywedodd, Wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio: pa beth yw yr achos o herwydd yr hwn yr ydych bresenol?