Acts 10:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’hwy a ðywedent, Cornelius y captaen‐cannwr, gwr cyfiawn, ac vn yn ofny Dew, ac a gair da iddaw gan oll genedl yr Iuddaeon, a rybyddiwyt or nef y gan Angel sanct, y dd anvon am danat, y ei d u y, ac y wrādaw ar dy ’airiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac a thystiolaeth iddo gan holl genedl yr Iwddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i ddanfon am danat i’w dŷ, ac i glywed ymadroddion genyt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedasant hwythau, “Cornelius, canwriad, gŵr cyfiawn, sy’n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd oddiuchod gan angel santaidd i ddanfon amdanat i’w dŷ ac i glywed pethau gennyt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd y dynion, “Ein meistr ni, Cornelius, sy'n swyddog yn y fyddin sydd wedi'n hanfon ni yma. Mae e'n ddyn da a duwiol sy'n cael ei barchu'n fawr gan yr Iddewon i gyd. Dwedodd angel wrtho am dy wahodd i'w dŷ iddo gael clywed beth sydd gen ti i'w ddweud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddent hwythau, "Y canwriad Cornelius, gu373?r cyfiawn sy'n ofni Duw ac sydd gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i anfon amdanat i'w du375?, ac i glywed y pethau sydd gennyt i'w dweud."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddywedasant, Cornelius, Canwriad, gwr cyfiawn ac yn ofni Duw, a thystiolaeth dda iddo gan holl genedl yr Iuddewon, a gyfarwyddwyd gan Angel sanctaidd i ddanfon am danat ti i'w dy, ac i glywed geiriau genyt.