Acts 10:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y galwodd ef wynt y mewn, ac ei lletyawdd: A’ thranoeth, ydd aeth Petr allan y gyd ac wynt, a’r ei o’r broder o Ioppa aeth y gyd a hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi galw hwynt, gan hyny, i mewn, llettyodd hwynt. A thrannoeth, wedi cyfodi o hono, aeth allan ynghyda hwynt; a rhai o’r brodyr o Ioppa a aethant gydag ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly gwahoddodd hwynt i mewn a’u lletya. A thrannoeth cyfododd ac aeth ymaith gyda hwynt, ac aeth rhai o’r brodyr oedd yn Ioppa gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o'r brodyr o Jopa a aeth gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Pedr yn croesawu'r dynion i mewn i'r tŷ i aros dros nos. Y diwrnod wedyn dyma Pedr yn mynd gyda nhw, ac aeth rhai o gredinwyr Jopa gydag e hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly gwahoddodd hwy i mewn a rhoi llety iddynt. Trannoeth, cododd ac aeth ymaith gyda hwy, ac aeth rhai o'r credinwyr oedd yn Jopa gydag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hyny efe a'u gwahoddodd i mewn ac a'u lletyodd. A thranoeth efe a gyfododd, ac a aeth allan gyda hwynt, a rhai o'r brodyr o Joppa a aethant gydag ef.