Acts 10:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thranoeth, ydd aethant y mewn y Cesareia. Ac Cornelius a arosawdd arnwynt, ac y galwesei ei gydgenedloedd, a’ ei annwyl gereint.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrannoeth y daethant i mewn i Cesarea; a Cornelius oedd yn disgwyl am danynt, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion cyfrinachol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ail trannoeth aeth i mewn i Gesarea. A Chornelius oedd yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion agos.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a'i annwyl gyfeillion ynghyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n cyrraedd Cesarea y diwrnod wedyn. Roedd Cornelius yn disgwyl amdanyn nhw, ac wedi galw ei berthnasau a'i ffrindiau draw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thrannoeth, cyrhaeddodd Gesarea. Yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, ac wedi galw ynghyd ei berthnasau a'i gyfeillion agos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thranoeth efe a aeth i mewn i Cesarea: ac yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a'i gyfeillion mynwesol.