Acts 10:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Petr y cyvodes ef, gan ddywedyt, Cyvot y vynydd: a’ mi n ef wyf ðyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond Petr a’i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd, Cyfod; minnau hefyd fy hun, dyn wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cyfododd Pedr ef, gan ddywedyd, “Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Pedr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Pedr yn gwneud iddo godi: “Saf ar dy draed,” meddai wrtho, “dyn cyffredin ydw i fel ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cododd Pedr ef ar ei draed, gan ddweud, "Cod; dyn wyf finnau hefyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Petr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finau hefyd.