Acts 10:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ef a ddyvot wrthwynt, Chvvy chwi wyddoch nad yw gyfreithlawn i wr o Iuddew ymwascy n’ai ddyvot at alltut: eithyr Dew a ddangosawdd i mi, yd na ’alwn vn dyn yn gyffredin, ai yn aflan:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlawn yw i ŵr o Iwddew ymgyssylltu neu ddyfod at alltud: ac i mi Duw a ddangosodd na alwn neb rhyw ddyn yn gyffredin neu yn aflan:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac meddai wrthynt, “Gwyddoch chwi mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymgyfeillach neu ymweled ag estron; eto dangosodd Duw i mi na alwn neb dyn yn gyffredin neu aflan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod fod ein Cyfraith ni'r Iddewon ddim yn caniatáu i ni gymysgu gyda phobl o genhedloedd eraill. Ond mae Duw wedi dangos i mi fod gen i ddim hawl i ystyried unrhyw un yn aflan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac meddai wrthynt, "Fe wyddoch chwi ei bod yn anghyfreithlon i Iddew gadw cwmni gydag estron neu ymweld ag ef; eto dangosodd Duw i mi na ddylwn alw neb yn halogedig neu'n aflan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mor anghyfreithlawn yw i wr o Iuddew ymlynu wrth, neu ddyfod at, un o genedl arall: a Duw a ddangosodd i mi na alwn i neb rhyw ddyn yn gyffredin neu aflan: