Acts 10:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
am hynny yd aethym atoch yn ddinag, pan dd anvonwyt am danaf. Erwydd pa bleit y ymofynaf, o ran pa achos y d anvonesoch am danaf?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o ba herwydd hefyd, heb ddim gwrthddywedyd, y daethum pan ddanfonwyd am danaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny y deuthum yn ddinâg, pan yrrwyd amdanaf. Gofynnaf, felly, paham y gyrasoch amdanaf.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pan anfonoch chi amdana i, doedd dim dadl am y peth — des i ar unwaith. Ga i ofyn felly, pam wnaethoch chi anfon amdana i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna pam y deuthum, heb wrthwynebu o gwbl, pan anfonwyd amdanaf. 'Rwy'n gofyn, felly, pam yr anfonasoch amdanaf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
am hyny, hefyd, yn ddinag y daethum pan anfonwyd am danaf. Yr wyf yn gofyn gan hyny am ba reswm yr anfonasoch am danaf?