Acts 10:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot Cornelius, Er es pedwar diernot a ddeddyvv amgylch yr awr hon, ydd oeddwn yn vmprydiaw, ac ar y nawvet awr y gweðiais, yn vy‐t u y, ac wele, y savoð gwr geir vy‐bron yn‐gwisc dd ysclaer,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Cornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod, hyd yr awr hon, yr oeddwn yn cadw gweddi y nawfed awr yn fy nhŷ, ac wele, gŵr a safodd ger fy mron, mewn gwisg ddisglaer,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ebe Cornelius, “Pedwar diwrnod i’r awr hon yr oeddwn ar weddi’r nawfed awr yn fy nhŷ, a dyna ŵr yn sefyll ger fy mron mewn gwisg ddisglair,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i'r awr hon o'r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Cornelius: “Bedwar diwrnod yn ôl tua'r adeg yma, sef tri o'r gloch y p'nawn, roeddwn i yn y tŷ yn gweddïo. Yn sydyn roedd dyn yn sefyll o mlaen i a'i ddillad yn disgleirio'n llachar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ebe Cornelius, "Pedwar diwrnod i'r awr hon, yr oeddwn ar weddi am dri o'r gloch y prynhawn yn fy nhu375?, a dyma u373?r yn sefyll o'm blaen mewn gwisg ddisglair,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Chornelius a ddywedodd, Y pedwerydd diwrnod yn ol, a chyfrif hyd yr awr hon, yr oeddwn yn gweddio ar y nawfed awr yn fy nhy: ac wele, safodd gwr ger fy mron mewn gwisg ddysglaer,