Acts 10:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yd anvoneis i yn ebrwydd am danat, a’ thi wnaethost yn dda ar ddyvot. Yn awr gan hynny ydd ym ni yma oll yn gydrychiol ger bron Dew, er mvvyn gwrandaw pop peth y ’orchymynwyt yty gan Ddew. Yr Epistol ar ddie Llun Pasc, a’ ddie llun y Sul gwyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr awr honno, gan hyny, y danfonais attat; a thydi, da y gwnaethost wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, nyni oll ydym bresennol ger bron Duw, i glywed yr holl bethau a orchymynwyd i ti gan yr Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly ar unwaith yr anfonais atat, a thithau, gwelaist yn dda ddyfod. Yn awr, ynteu, yr ŷm i gyd yma ger bron Duw, i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando'r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n anfon amdanat ti ar unwaith. Dw i'n ddiolchgar i ti am ddod. Felly dŷn ni yma i gyd i wrando ar y cwbl mae'r Arglwydd Dduw am i ti ei ddweud wrthon ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonais atat, felly, ar unwaith, a gwelaist tithau yn dda ddod. Yn awr, ynteu, yr ydym ni bawb yma gerbron Duw i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ddioed gan hyny, myfi a anfonais atat: tithau hefyd a wnaethost yn dda wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, yr ydym ni oll yn bresenol gerbron Duw i wrandaw yr holl bethau sydd wedi eu gorchymyn i ti gan yr Arglwydd.