Acts 10:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nid amgen no darvot i Ddew enneiniaw Iesu o Nazaret a’r Yspryt glan, ac a nerth: yr hwn gerddawdd o yamgylch gan wneythy- gvveithredoedd‐ da, ac iachay pawp rei oedd yn ’oarsengedic y gan ðiavol: can ys Dew oedd y gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Iesu o Natsareth, y modd yr enneiniodd Duw Ef â’r Yspryd Glân ac â gallu, yr Hwn a dramwyodd gan wneuthur daioni ac iachau yr holl rai a orthrymmid gan ddiafol, canys Duw oedd gydag Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y modd yr eneiniodd Duw ef â’r Ysbryd Glân ac â nerth, yr hwn a aeth o gwmpas gan wneuthur daioni ac iacháu pawb a oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a'r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Duw wedi eneinio Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân ac â nerth rhyfeddol. Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneud daioni ac yn iacháu pawb oedd yn dioddef am fod y diafol yn eu poeni nhw. Roedd Duw gydag e!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y modd yr eneiniodd Duw ef 'r Ysbryd Gln ac nerth. Aeth ef oddi amgylch gan wneud daioni ac iachu pawb oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
chwi a wyddoch Iesu o Nazareth, y modd yr eneiniodd Duw ef â'r Yspryd Glân a gallu: yr hwn a aeth trwy y wlad, gan wneuthur daioni ac iachâu pawb oedd wedi eu gormesu gan y Diafol; oblegyd yr oedd Duw gydag ef.