Acts 10:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd ym ni yn testion o’r oll pethae a wnaeth ef yn‐ tir yr Iuddaeon, ac yn‐Caerusalem: yr hwn a laddesont vvy, ac a grocesont ar bren.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nyni ydym dystion o’r holl bethau a wnaeth Efe yngwlad yr Iwddewon ac yn Ierwshalem; yr Hwn hefyd a laddasant, gan Ei grogi ar bren.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ninnau, tystion ydym o’r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon a Chaersalem; a’i ladd a wnaethant, gan ei grogi ar bren.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n llygad-dystion i'r cwbl! Gwelon ni bopeth wnaeth Iesu yn Jerwsalem a gweddill Israel. Cafodd ei ladd drwy gael ei hoelio ar bren ganddyn nhw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr ydym ni'n dystion o'r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon ac yn Jerwsalem. A lladdasant ef, gan ei grogi ar bren.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr ydym ni yn dystion o'r holl bethau a wnaeth efe yn ngwlad yr Iuddewon ac yn Jerusalem; yr hwn hefyd a laddasant gan ei grogi ar bren.