Acts 10:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan edrychawdd arnaw, ofny a wnaeth, a’ dywedyt, Pa beth yt yw, Arglwydd? Ac ef a ddyvot wrthaw, Dy weddiae ath eleesenae a escenesont yn‐cof geyr bron Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, wedi craffu arno a myned yn ofnus, a ddywedodd, Pa beth sydd, Arglwydd? A dywedodd yntau wrtho, Dy weddïau a’th elusenau a ddaethant i fynu yn goffadwriaeth ger bron Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yntau a syllodd arno, a chan frawychu a ddywedodd, “Beth sydd, Arglwydd?” A dywedodd wrtho, “Esgynnodd dy weddïau a’th elusenau yn offrwm coffa ger bron Duw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a'th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Cornelius yn syllu arno mewn dychryn. “Beth, Arglwydd?” meddai. Atebodd yr angel, “Mae dy weddïau a'th roddion i'r tlodion wedi cael eu derbyn fel offrwm gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, "Beth sydd, f'arglwydd?" Dywedodd yr angel wrtho, "Y mae dy weddau a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo graffu arno a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddiau a'th elusenau a ddaethant i fyny yn goffadwriaeth gerbron Duw.