Acts 10:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nid ir oll popul, amyn ir testion etholedic or blaē gan Ddew, ys ef y n y ni yr ei vuam yn cydvwyta ac yn cydyvet ac ef, gwedy iddo gyvody o veirw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac a’i rhoddes i fod yn amlwg, nid i’r holl bobl, eithr i dystion a rag-ordeiniwyd gan Dduw, sef i ni, y rhai a gydfwyttasom ac a gydyfasom ag Ef wedi adgyfodi o Hono o feirw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
nid gan yr holl bobl ond gan dystion a ragetholasid gan Dduw, nyni, y rhai a fu’n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi o feirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Wnaeth pawb mo'i weld, dim ond y rhai ohonon ni oedd Duw wedi eu dewis i fod yn llygad-dystion.) Buon ni'n bwyta ac yn yfed gydag e ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid i'r holl bobl, ond i dystion oedd wedi eu rhagethol gan Dduw, sef i ni, y rhai a fu'n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi oddi wrth y meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nid i'r holl bobl, eithr i dystion a rag‐benodwyd gan Dduw, i ni, y rhai a gyd‐fwytasom ac a gyd‐yfasom gydag ef ar ol ei adgyfodi ef o feirw.