Acts 10:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef orchymynoð y ni precethy ir popul, a’ thestolaethy, mae ef yw hwnw a ordeiniwyt gan Ddew yn varnwr byw ion a’ meirw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gorchymynodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu mai Hwn yw’r Hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe orchmynnodd i ni gyhoeddi i’r bobl a dwys dystiolaethu mai hwn a benodwyd gan Dduw yn farnwr byw a meirw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd orchymyn i ni gyhoeddi'r newyddion da ym mhobman, a dweud mai fe ydy'r un mae Duw wedi ei benodi i farnu pawb — pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai hwn yw'r un a benodwyd gan Dduw yn farnwr y byw a'r meirw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a orchymynodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu yn eglur mai efe yw yr hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.