Acts 10:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y gyd hwnn y mae yr oll Prophwyti yn testiaw, mae trwy yr Enw ef, y byð i pwy bynac a creto ynthaw ef, dd ’erbyn maddeuant pechatae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I Hwn y mae’r holl brophwydi yn tystiolaethu fod maddeuant pechodau i’w gael trwy Ei enw Ef gan bob un sy’n credu Ynddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
I hwn y tystia’r holl broffwydi, gael o bawb a gredo ynddo faddeuant pechodau trwy ei enw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I hwn y mae'r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fe ydy'r un mae'r proffwydi i gyd yn sôn amdano, ac yn dweud y bydd pechodau pawb sy'n credu ynddo yn cael eu maddau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I hwn y mae'r holl broffwydi'n tystio, y bydd pawb sy'n credu ynddo ef yn derbyn maddeuant pechodau trwy ei enw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I hwn y mae yr holl brophwydi yn tystiolaethu, y derbyn pob un a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.