Acts 10:45 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyntwy o’r enwaediat a’r oeddent yn credy, a sannasant, cynniuer ac a ddaethent y gyd a P h etr, can ys darvot hefyt ar y Cenetloedd diney dawn yr Yspryt glan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a synnodd y rhai o’r amdorriad a oeddynt yn credu, cynnifer ag a ddaethent gyda Petr, gan ddywedyd, Ar y cenhedloedd hefyd y mae rhodd yr Yspryd Glân wedi ei thywallt allan;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A synnodd y credinwyr enwaededig, a ddeuthai gyda Phedr, am fod tywallt dawn yr Ysbryd Glân hyd yn oed ar y cenhedloedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y credinwyr Iddewig oedd gyda Pedr wedi eu syfrdanu'n llwyr fod yr Ysbryd Glân wedi cael ei dywallt ar bobl o genhedloedd eraill!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Synnodd y credinwyr Iddewig, cynifer ag oedd wedi dod gyda Pedr, am fod rhodd yr Ysbryd Gln wedi ei thywallt hyd yn oed ar y Cenhedloedd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai o'r Enwaediad a oeddent yn credu a synasant, cynifer ag a ddaethant gyda Phetr, am fod dawn yr Yspryd Glân wedi ei dywallt ar y Cenhedloedd hefyd.