Acts 10:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thranoeth mal yð oeðent yn mynet y ymddaith, ac yn dy nessay ir dinas, ydd escennawdd Petr ar vcha y tuy y weddiaw, amgylch y chwechet awr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrannoeth pan ymdeithient hwy, ac yn neshau at y ddinas, esgynodd Petr i ben y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrannoeth, a’r rhain ar eu taith ac yn dynesu at y ddinas, fe esgynnodd Pedr i ben y tŷ i weddïo tua’r chweched awr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tua chanol dydd y diwrnod wedyn pan roedd gweision Cornelius bron â chyrraedd Jopa, roedd Pedr wedi mynd i fyny i ben y to i weddïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agosu at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i weddo, tua chanol dydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thranoeth, fel yr oeddent hwy yn ymdeithio, ac yn neshâu at y ddinas, Petr a aeth i fyny ar nen y ty i weddio, ynghylch y chweched awr: