Acts 11:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Yspryt a ddyvot wrthyf, ar vynet o hanof y gyd ac wynt, eb petrusaw: ac yno y daeth y chwe ch broder hynn gyd a mi, ac ydd aetham y mewn y d u y ’r gwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrthyf y dywedodd yr Yspryd i fyned gyda hwynt heb ammeu dim. Ac yr aeth gyda mi y chwe brodyr hyn hefyd; ac aethom i mewn i dŷ y gŵr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddywedodd yr Ysbryd wrthyf am fyned gyda hwynt heb wahaniaethu ddim. Ac fe aeth gyda ni hefyd y chwe brawd hyn, ac aethom i mewn i dŷ’r gŵr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A'r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrtho i am beidio petruso mynd gyda nhw. Aeth y chwe brawd yma gyda mi a dyma ni'n mynd i mewn i dŷ'r dyn oedd wedi anfon amdana i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i du375?'r dyn hwnnw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd yr Yspryd wrthyf am fyned gyda hwynt, heb wneuthur gwahaniaeth. A'r chwe brodyr hyn hefyd a aethant gyda mi; ac ni a aethom i mewn i dy y gwr;