Acts 11:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan hyny ac a Dew yn rroi yddwynt wy gyfryw ddawn ac a roes i ni neu, pan credesam yn yr Arglwydd Iesu Christ, pwy oeddwn i, y allu gwrthladd Dew?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, y gyffelyb rodd a roddodd Duw iddynt hwy ag i ninnau y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, myfi, pwy oeddwn yn alluog i luddias Duw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os rhoddodd Duw, ynteu, iddynt hwy yr unrhyw ddawn ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu lluddias Duw?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gan fod Duw wedi rhoi'r un rhodd iddyn nhw ag a roddodd i ni pan wnaethon ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i geisio rhwystro Duw?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu rhwystro Duw?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os rhoddodd Duw, gan hyny, y gyffelyb rodd iddynt hwy ag i ninau hefyd y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, Myfi, pwy oeddwn i? A oeddwn alluog i luddias Duw?