Acts 11:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glywsant wy hynn, d ystewy a ’orugant, a’ gogoneddy Dew, gan ddywedyt, Can hynny ac ir Cenetloedd y rhoddes Dew ediveirwch er bywyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed y pethau hyn, distawsant, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Felly i’r cenhedloedd hefyd y mae Duw wedi rhoddi edifeirwch i fywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi clywed hyn distewi a wnaethant a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Felly hyd yn oed i’r cenhedloedd y rhoddes Duw yr edifeirwch i fywyd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i'r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywon nhw'r hanes, doedden nhw ddim yn gallu dweud dim yn groes, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae'n rhaid fod Duw felly'n gadael i bobl o genhedloedd eraill droi cefn ar eu pechod a chael bywyd!” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, "Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi clywed y pethau hyn, hwy a ymdawelasant, ac a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Ac felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch i fywyd.