Acts 11:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wyntwy a ’oyscaresit obleit y gorthrymder y godesei yn‐cylch Stephan, a rodiesont trwyodd yn y ddaethant i Phenice ac Ciprus, ac Antiocheia, eb precethy yr gair y nep, anid ir Iuddaeon yn vnic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, ynte, y rhai a wasgaresid o herwydd y blinder a ddigwyddasai o achos Stephan, a dramwyasant hyd at Phenice a Cuprus ac Antiochia, heb lefaru y Gair wrth neb oddieithr yn unig wrth Iwddewon:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y rhai a wasgarasid, ynteu, oherwydd y cyfyngder a godasai ynglŷn â Steffan, teithiasant hyd Phoenice a Chyprus ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond yn unig wrth Iddewon.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru'r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O ganlyniad i'r erlid ddechreuodd yn dilyn beth ddigwyddodd i Steffan, roedd rhai credinwyr wedi dianc mor bell a Phenicia, Cyprus ac Antiochia yn Syria. Roedden nhw'n rhannu'r neges, ond dim ond gydag Iddewon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r Gair wrth neb ond Iddewon yn unig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai gan hyny yn wir a wasgarwyd mewn canlyniad i'r blinder a gyfododd ar gyfrif Stephan, a dramwyasant hyd yn Phœnicia, a Cyprus, ac Antioch, heb lefaru y Gair wrth neb ond yr Iuddewon yn unig.