Acts 11:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ’rei o hanaddwynt oedd wyr o Cyprus ac o Cyrene, y sawl pan ddaethant y Antiocheia, a ymddiddanesont a’r Groecieit, ac a precethesont yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yr oedd rhai o honynt yn wŷr o Cuprus ac o Curene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth yr Iwddewon Groegaidd hefyd, gan efengylu yr Arglwydd Iesu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr oedd rhai ohonynt yn wŷr o Gyprus a Chyrene, a hwy, wedi dyfod i Antiochia, dechreuasant lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan draethu’r newydd da am yr Arglwydd Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna dyma'r rhai aeth i Antiochia o Cyprus a Cyrene yn dechrau cyhoeddi'r newyddion da am yr Arglwydd Iesu i bobl o genhedloedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A rhai o honynt, gwyr o Cyprus a Cyrene, yn gyfryw rai, wedi dyfod i Antioch, a lefarent hefyd wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.