Acts 11:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ llaw yr Arglwydd oedd gyd ac wynt: ac niuer mawr a gredawð ac y ymchwelawdd ar yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; a nifer mawr, y rhai a gredasant, a droisant at yr Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd llaw’r Arglwydd gyda hwynt, a nifer mawr a gredasai a droes at yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Duw gyda nhw, a dyma nifer fawr o bobl yn credu ac yn troi at yr Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd llaw'r Arglwydd gyda hwy, a mawr oedd y nifer a ddaeth i gredu a throi at yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; hefyd nifer mawr y rhai a gredasant a droisant at yr Arglwydd.