Acts 11:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno y daeth y gair o’r pethae hyny i glustiae yr Eccles, ’oedd yn‐Caerusalem, ac wynt anvonesont Barnabas y vyned yd yn Antiocheia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlybuwyd y gair yng nghlustiau yr eglwys oedd yn Ierwshalem, am danynt; a danfonasant allan Barnabas hyd at Antiochia;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth y gair amdanynt i glustiau’r eglwys a oedd yng Nghaersalem, ac anfonasant Farnabas hyd Antiochia;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd yr eglwys yn Jerwsalem am y peth, dyma nhw'n anfon Barnabas i Antiochia i weld beth oedd yn digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yr hanes amdanynt i glustiau'r eglwys oedd yn Jerwsalem ac anfonasant Barnabas allan i fynd i Antiochia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r son am danynt hwy a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a hwy a anfonasant allan Barnabas hyd Antioch;