Acts 11:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn gwedy ei ddyvot a’ gwelet rrat Dew, llawen vu ganthaw, ac ef a annogawdd bavvp oll, ar vot yddwynt trwy arvaeth calon ’lyny wrth yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac efe, wedi dyfod a gweled gras Duw, a lawenychodd, a chynghorodd bawb o honynt, â llwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi iddo ef gyrraedd a gweled gras Duw, bu lawen ganddo, ac anogai bawb o lwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd yno gwelodd yn glir fod Duw ar waith. Roedd wrth ei fodd, ac yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i'r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn pan gyrhaeddodd, a gweled gras Duw, a lawenychodd, ac a gynghorodd bawb â llwyr‐fryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd: