Acts 11:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth Barnabas y maith i Tarsus y geisiaw Saul:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ychwanegwyd tyrfa fawr at yr Arglwydd. Ac aeth efe allan i Tarsus, i edrych am Shawl, ac wedi ei gael ef, daeth ag ef i Antiochia;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael fe’i dug i Antiochia.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Barnabas yn ei flaen i Tarsus wedyn i edrych am Saul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael daeth ag ef i Antiochia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth ymaith i Tarsus i chwilio am Paul,