Acts 11:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac wedy y ddaw ei gahel, ef ei duc y Antiocheia. Ac e ddarvu, y n y buont vlwyddyn gyfan yn cytal ar Eccles, ac yn dyscy tyrva vawr, ac y n y ’alwyt y discipulon yn gyntaf lle yn Antocheia yn Christianogion. Yr Epistol ar ddydd. S. Iaco.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a bu iddynt hefyd am flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys a dysgu tyrfa fawr; ac yn gyntaf yn Antiochia y galwyd y disgyblion yn Gristionogion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac am flwyddyn gyfan yr ymgynullasant gyda’r eglwys ac y dysgasant gryn dyrfa, ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion gyntaf yr enw “Cristnogion.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer; a bod galw y disgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl dod o hyd iddo, aeth ag e yn ôl i Antiochia. Buodd y ddau yno gyda'r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. (Gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi ei gael, efe a'i dyg i Antioch. A bu iddynt am flwyddyn gyfan ymgynull yn yr Eglwys, a dysgu tyrfa fawr, a galw yn gyntaf yn Antioch y dysgyblion yn Gristionogion.