Acts 11:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac y cyvodes vn ha nadd ynt a elwit Agabus, ac yr arwyddocaodd trwy yr Yspryt, y byddei newyn mawr dros yr oll vyt, yr hynn hefyt y ddar vu y dan Claudius Caisar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi cyfodi o un o honynt a’i enw Agabus, arwyddoccaodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar fedr bod dros yr holl fyd; yr hwn a ddigwyddodd dan Claudius:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyfododd un ohonynt, a’i enw Agabus, ac arwyddo trwy’r Ysbryd fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl fyd — yr hwn a fu yn amser Clawdius.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un ohonynt, a'i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn un o'r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o'r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy'r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac un o honynt, o'r enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocâodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl ddaear gyfaneddol: yr hwn a ddygwyddodd yn amser Claudius.