Acts 11:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr discipulō pop vn yn ol ei allu, a ddarparasont anvon rryvv cymporth ir broder oedd yn preswiliaw yn Iudaia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r disgyblion, fel yr oedd y modd gan neb, a benderfynasant, bob un o honynt, ddanfon at y weinidogaeth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Iwdea.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phenderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt yn ôl ei fodd, anfon at wasanaeth y brodyr a oedd yn trigo yn Iwdea.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r credinwyr yn Antiochia yn penderfynu helpu eu brodyr a'u chwiorydd yn Jwdea, drwy i bawb gyfrannu cymaint ag y gallai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Penderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt, gyfrannu, yn l fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cyd-gredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r dysgyblion, pob un fel yr oedd yn llwyddo, a benderfynasant anfon er gweinyddu cymhorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Judea: