Acts 11:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
My vi oeðwn yn‐dinas Ioppa, yn gweddiaw, ac mewn llewic y gwelais y weledigaeth hon, Bot ryw lestr vnwedd a llenlliain vawr yn descen wedy ’r ellwng i waeret o’r nef erbyn y petair congyl, a dyvot a ’oruc yd ataf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Myfi oeddwn yn ninas Ioppa, yn gweddïo; a gwelais, mewn llewyg, weledigaeth, ddisgyn o ryw lestr, fel llen-lliain fawr, wedi ei gollwng i lawr, erbyn ei phedair congl, o’r nef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd, “Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddïo, a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr a ollyngid wrth bedair congl o’r nef, a daeth hyd ataf;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o'r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roeddwn i yn Jopa, ac wrthi'n gweddïo ryw ddiwrnod pan ges i weledigaeth. Gwelais i rywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr o'r awyr wrth ei phedair cornel. Daeth i lawr reit o mlaen i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr oeddwn i," meddai, "yn nhref Jopa yn gweddo, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oeddwn i yn ninas Joppa yn gweddio; a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr megys llen‐llian fawr yn disgyn, wedi ei gollwng i lawr o'r Nef, wrth ei phedair congl, ac a ddaeth hyd ataf fi: