Acts 11:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A dywedais inef, Na vvnaf Arglwydd: Can ys dim cyffredin ai aflan nid aeth vn amser o ve wn vy‐genae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cyfod, Petr, lladd a bwytta; a dywedais, Nid er dim, Arglwydd, canys peth cyffredin neu aflan ni ddaeth erioed i mewn i’m genau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddwn i, ‘Na, na, Arglwydd; canys dim cyffredin neu aflan nid aeth erioed i’m genau.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a ddywedais, Nid felly, Arglwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i'm genau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dwyt ti ddim o ddifri, Arglwydd!” meddwn i. “Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n cael ei gyfri'n aflan neu'n anghywir i'w fwyta!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedais, 'Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedais, Na wnaf er dim, Arglwydd, canys peth cyffredin neu aflan nid aeth erioed i mewn i'm genau.