Acts 11:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac atep o’r llef erydd vy vi eilwaith o’r nef, Y pethae a lanhodd Dew, na chyffredina di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attebodd llais eilwaith, o’r nef, Y pethau y bu i Dduw eu glanhau, na wna di yn gyffredin.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd eilwaith lef o’r nef, ‘Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y llais a'm hatebodd i eilwaith o'r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond wedyn dyma'r llais o'r nefoedd yn dweud, ‘Os ydy Duw wedi dweud fod rhywbeth yn iawn i'w fwyta, paid ti â dweud fel arall!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd llais o'r nef eilwaith, 'Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti 'i alw'n halogedig.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac atebodd llais eilwaith o'r Nef, Y pethau a lanhâodd Duw na wna di yn gyffredin.