Acts 12:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Weithiam wedy ei mynet eb law y gyntaf ar ail gadwriaeth, wy ðaethant ir porth haiarn, y arwein ir dinas, yr hwn a ymagorawdd yddwynt o ei waith ehun, ac wy aethant allan, ac a drawenesont trwy vn heol, ac eb‐oludd ydd ymedawodd yr Angel y wrthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned heibio’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, daethant at y porth haiarn y sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn o’i waith ei hun a ymagorodd iddynt; ac wedi dyfod allan, aethant ymlaen hyd un heol, ac yn uniawn yr ymadawodd yr angel ag ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant heibio i’r wyliadwriaeth gyntaf a’r ail, a dyfod at y porth haearn a oedd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a agorodd iddynt ohono’i hun; ac aethant allan a mynd rhagddynt ar hyd un heol; yna’n ebrwydd aeth yr angel ymaith oddiwrtho.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a'r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n mynd heibio'r gwarchodwr cyntaf, a'r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i'r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd trwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma'r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant heibio i'r wyliadwriaeth gyntaf a'r ail, a daethant at y porth haearn oedd yn arwain i'r ddinas; agorodd hwn iddynt ohono'i hun, ac aethant allan a mynd rhagddynt hyd un heol. Yna'n ebrwydd ymadawodd yr angel ag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi myned heibio y gyntaf wyliadwriaeth a'r ail, hwy a ddaethant at y porth haiarn, yr hwn sydd yn arwain i'r Ddinas, yr hwn a agorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi myned allan, hwy a aethant yn mlaen ar hyd un heol: ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymaith oddiwrtho.