Acts 12:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy ymchwelyt Petr ato ehun, y dyvot, Yn awr y gwnn yn ddiau, mae yr Arglwydd a dd’anvonas ei Angel, ac am gwaredawdd i o law Herod, ac y wrth dd ysgwyliat popul yr Iuddaeon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Petr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir y danfonodd yr Arglwydd allan ei angel, ac y’m cymmerodd o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iwddewon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth Pedr ato’i hun, a dywedyd, “Yn awr gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei angel, a’m gwared i o law Herod ac o’r cwbl a ddisgwyliai pobl yr Iddewon.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Arglwydd ei angel, a'm gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pryd daeth ato'i hun. “Mae wedi digwydd go iawn! — mae'r Arglwydd wedi anfon ei angel i'm hachub i o afael Herod, fel bod yr hyn roedd yr Iddewon yn ei obeithio ddim yn digwydd i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Pedr ddod ato'i hun, fe ddywedodd, "Yn awr mi wn yn wir i'r Arglwydd anfon ei angel a'm gwared i o law Herod a rhag popeth yr oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir i'r Arglwydd anfon allan ei Angel, ac a'm cymerodd allan o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iuddewon.