Acts 12:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan adnabu hi lais Petr, ni d agores hi ddrvvs yr entri gan lewenydd, eithyr rhedec y mewn, a’ manegy bot Petr yn sefyll gerwynep yr entri.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi adnabod llais Petr, o’i llawenydd nid agorodd y porth, ond wedi rhedeg i mewn mynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phan adnabu lais Pedr nid agorodd y porth gan lawenydd, eithr rhedodd i mewn a mynegi bod Pedr yn sefyll o flaen y porth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan wnaeth hi nabod llais Pedr roedd hi mor llawen nes iddi redeg yn ôl i mewn i'r tŷ heb agor y drws! “Mae Pedr wrth y drws!” meddai hi wrth bawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan adnabu hi lais Pedr nid agorodd y drws gan lawenydd, ond rhedodd i mewn a mynegodd fod Pedr yn sefyll wrth ddrws y cyntedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi adnabod llais Petr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn ac a fynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.